'Nol cwmpo ym Mharadwys, pwy all'sai gadw dyn? Syrthiasom oll yn Adda i bechod bob yr un; Nid gwaed yr holl gre'duriaid ollyngwyd ar y llawr, Fyth fyth a dal'sai ein dyled, ond gwaed y Iesu mawr. Nid yw gair Duw yn un-man yn canmol haeddiant dyn, Ein budron gyfiawnderau sydd frattiau bob ur un: Ein haeddiant oll wrth natur oedd bod yn fawr a mân, Tros oesoedd trag'wyddoldeb yn poeni'n uffern dân. Beth yw pob dyn ond gwagedd, ďe ar y goreu i gyd? A dderfydd fel glaswelltyn mewn awr ei degwch bryd, O'r pridd y ca'dd ei ddechrau, i'r pridd yn fuan â, Y cyfoeth sydd i bara, cyfiawnder Iesu da. Nid oes un dyn yn haeddu trugaredd ar law Duw, Ni bu ef yn ddyledwr i neb o ddynolryw; Ac er ei fod yn meddu cre'duriaid rif y gwlith, Ni bydd ef yn ddyledwr i un o honynt byth. 'All burgyn aflan haeddu trugaredd ar law Duw, Na ddichon ddim ond pechu tra byddo yma'n byw? Y dommen lawn o nadroedd, O f'enaid, gwel yn awr, Mai'r unig beth a'th gadwodd oedd angeu Iesu mawr. Duw bia'r trugareddau a roddwyd yma i ddyn, Gwaed calon Iesu cyfiawn a'i prynodd bob yr un, Yn rhad mae dyn yn derbyn y cwbl tan y rhod; O'r cariad mawr y tarddodd cyn creu y byd erio'd. Cyn creu nef a daear, yr haul a'r lleuad wen, Na bod i un creadur a greuwyd tan y nen; Cyn gwneuthur un elusen na neb o ddynolryw, Diddechreu a diddiwedd gwn yw tragaredd Duw. Nid oes na rhanna chyfran o iechydwriaeth dyn, Yn y cyfammod newydd yn sefyll arno ei hun; O ystlys y Messia y tardda'r ffynnon hyn, A olcha ein heneidiau yn hardd fel eira gwyn. Pe rho'wn fy nghorph i'w losgi yn ulw yn y tân, A'm holl da i borthi'r tlodion o'm deutu fawr a mân, A meddu cyfiawnderau rifedi gwlith y wawr, Dim wedi'n all fy nghadw ond haeddiant Iesu mawr. 'Nghrist yn ganmoladwy mae pob rhyw weithred dda, Holl gyfoeth dyn ei hunan yw calon lawn o bla; Heb 'wyllys ac heb allu i wneuthur da'n ddible, Y trysor dâl ei ganmol, cyfiawnder Brenin ne'. Efe yw'r un a roddodd foddlondeb llawn i'r Tad, Efe sy'n cynnyg heddwch tragywydd i ni'n rhad: Efe sy'n rhannu a dewis, darfydded son am ddyn, Neb teilwng o'r gogoniant ond Iesu mawr ei hun. Wele dyma yn sy'n maddeu pechodau rif y gwlith, 'Does mesur ar ei gariad na therfyn iddo byth; Mae'n ymofyn lle i dosturio yn hoffi trugarhau, Trugaredd i'r ymddifaid sydd yntho i barhau. Y neb sy' a Iesu ganddo, efe yw'r Bywyd mawr, Ni haeddodd dyn er Adda ond uffern hyd yn awr; 'Does enw tan y nefoedd ond Iesu Grist ei hun, Ie neb ond ef yn unig all gadw enaid dyn. Efe dywalltodd trosof ei waed rhwng dae'r a ne', 'Chais f'enaid archolledig un meddyg ond efe; Fy unig ble a'm bywyd yw gwaed f'Anwylyd gwyn, A redodd fel yr afon ar ben Calfaria fryn. Achubodd lu o ddynion colledig o fy mla'n, Sy'n y breswylfa lonydd yn gwel'd ei wyneb glân: Fe ddarfu eu gwaith rhyfela, ni chlwyfa gelyn mwy, Gwyn fyd f'ai 'nhrag'wyddoldeb yn moli gydâ hwy.Morgan Rhys 1716-79 Golwg o Ben Nebo 1764 [Mesur: 13.13.13.13] gwelir: O dyred/tyred Iôr tragwyddol Trugaredd drefnodd Geidwad Wel dyma'r Un sy'n maddeu |
After falling in Paradise, who could save man? We all fell in Adam to sin every one; Not the blood of all the creatures shed on the ground, Could ever ever pay our debt, but the blood of great Jesus. The word of God is not anywhere praising the merit of man, Our filthy righteousnesses are tatters every one: All our merit by nature was being great and small, Across ages of eternity paining in hell fire. What is every man but vanity, yes, at the best altogether? Which will vanish like a blade of grass in an our of his fairness of time, From the soil it got its beginning, to the soil soon it will go, The wealth which is to endure, the righteousness of good Jesus. There is no man deserving mercy at the hand of God, He was not a debtor to anyone of humankind; And though he be possessing creatures numerous as the dew, He will not be a debtor to any one of them. Can an unclean rascal deserve mercy at the hand of God, Who can do nothing but sin while ever here living? The heap full of adders, O my soul, see now, That the only thing that saved thee was the death of great Jesus. To God belongs mercies which were given here to man, The blood of the heart of righteous Jesus redeemed him every one, Freely man is receiving the whole under the sky; From the great love it issued before ever creating the world. Before creating heaven and earth, the sun and the white moon, Or there be any creature made under the sky; Before the doing of any charity by anyone of humankind, Without beginning or ending I know is the mercy of God. There is no sharing a portion of the salvation of man, In the new covenant standing upon him himself; From the side of the Messiah springs this fount, Which washes our souls beautiful like white snow. If I gave my body to be burned to ashes in the fire, And all my goods to feed the poor about me great and small, And possess righteousnesses numerous as the dew of the dawn, Nothing then can keep me but the the merit of great Jesus. Christ praiseworthy every kind of action is good, The whole wealth of man himself is a heart full of plague; Without a will and without power to do good anywhere, The treasure keeps being praised, the righteousness of heaven's King. He is the one who gave full faithfulness to the Father, He who is offering eternal peace to us freely: He who is dividing and choosing, let mention of man cease, No-one worthy of the glory but great Jesus himself. See here is one who is forgiving sins as numerous as the dew, There is no measure to his love nor end to it ever; It is asking for a place to show mercy loving to be merciful, Mercy to the defenceless which is in him to endure. To anyone who has Jesus, he is the great Life, Man has deserved nothing since Adam but hell until now; There is no name under heaven but Jesus Christ himself, Yes, no-one but him alone can keep the soul of man. He poured out for me his blood between earth and heaven, My lost soul seeks not one physician but him; My only place and my life is the blood of my white Beloved, Which ran like the river on the summit of Calvary hill. He saved a host of lost men before me, Who are in the cheerful residence seeing his holy face: Their war work ceased, they will not wound an enemy any more, Blessed will be my eternity praising with them.tr. 2015 Richard B Gillion |
|